09-11-2020
System gwerthuso cyrsiau a modiwlau ar-lein PDC yw Loop. Dyma'ch cyfle i ddweud wrthym yn uniongyrchol sut rydych chi’n dod ymlaen gyda’ch cwrs a'ch modiwlau.
Mae derbyn eich adborth yr un mor bwysig ag erioed eleni. Rydym eisiau gwybod sut rydych chi’n dod ymlaen gyda’ch cyrsiau a modiwlau yn gyffredinol a beth fu'ch profiad o ddysgu cyfunol ac ar-lein hyd yn hyn.
Rhowch adborth fel y gallwn barhau i loywi a gwella'ch profiad dysgu yma yn y Brifysgol.
Dysgwyr blwyddyn olaf - cyrchu Loop a rhoi adborth ar eich cwrs.
Pob dysgwr arall - cyrchu Loop a rhoi adborth ar eich modiwlau. Gwyliwch Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr yn siarad am ba mor bwysig yw cwblhau'r arolwg yma.
Sylwch fod pob ymateb yn cael ei adrodd yn ddienw. Rydym yn eich annog i gwblhau'r arolygon perthnasol erbyn 30ain Tachwedd (fodd bynnag, bydd yr arolygon yn parhau ar agor ar ôl hyn).
18-12-2020
11-12-2020
11-12-2020
11-12-2020
07-12-2020
30-11-2020
26-11-2020
19-11-2020
09-11-2020