Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd: 18 – 24 Mawrth

Food Waste Action Week 2x1 CM

I nodi Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd (18 – 24 Mawrth), gwahoddir myfyrwyr i ddigwyddiad Cinio a Dysgu ar-lein ddydd Mercher 20 Mawrth, a gynhelir gan Wales Recycles.

Fel rhan o'i ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha i leihau gwastraff bwyd a helpu Cymru i ddod y gorau yn y byd o ran ailgylchu, mae Wales Recycles wedi ymuno â chogydd S4C a’r BBC, Chris ‘Flamebaster’ Roberts, ar gyfer y digwyddiad 30 munud, sy'n dechrau am 12.30yp.

Bydd y Cinio a Dysgu yn llawn awgrymiadau i drawsnewid cynhwysion sy'n aml yn cael eu gadael ar ôl yn brydau cyflym, hawdd a blasus i'ch helpu i leihau gwastraff ac arbed arian. Bydd Flamebaster hefyd yn lansio ei fideo ryseitiau diweddaraf, ochr yn ochr â chreadigaeth gan y cogydd Dirty Vegan, Matt Pritchard, gyda chyfle i ofyn cwestiynau yn y sesiwn holi ac ateb.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad Cinio a Dysgu am ddim, ewch i Eventbrite.

#unilife_cymraeg