Llywodraeth Cymru'n cynyddu cap ffioedd dysgu

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynyddu'r cap ffioedd dysgu. Dyma'r uchafswm y gall prifysgolion ei godi ar fyfyrwyr y DU am eu cyrsiau israddedig llawn amser. Mae'r cynnydd hwn yn y cap ffioedd dysgu yng Nghymru yn gyson â chenhedloedd eraill y DU a oedd eisoes yn gallu codi hyd at £9,250 am eu cyrsiau perthnasol.

Er bod Llywodraeth Cymru yn pennu'r uchafswm hwn, penderfyniad prifysgolion unigol yw faint maen nhw'n ei godi am gyrsiau.

Mae'r Brifysgol wedi penderfynu ar y canlynol ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn amser yn y DU:

  • Codir tâl o £9,250 ar newydd-ddyfodiaid i'r Brifysgol o fis Medi 2025 ymlaen. Bydd y myfyrwyr hyn wedyn yn talu £9,250 y flwyddyn drwy gydol eu cwrs.
  • Bydd myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs cyn Medi 2025 yn parhau i dderbyn ffi £9,000 y flwyddyn drwy gydol eu cwrs israddedig llawn amser.

Ni fydd y cyhoeddiad diweddaraf yn effeithio ar ffioedd myfyrwyr rhyngwladol, myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig.

Wrth wneud y newidiadau hyn, mae'r Brifysgol wedi ystyried telerau ac amodau contractau sydd ar waith gyda myfyrwyr presennol ac ymgeiswyr newydd, yn ogystal â ffactorau eraill.

Er mwyn cefnogi myfyrwyr pan ddaw'r cynnydd newydd i rym, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynyddu'r benthyciad ffioedd dysgu i hyd at £9,250 i fyfyrwyr sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru sy'n astudio yng Nghymru (ac ar gyfer rhai eraill sy'n astudio yma).

#unilife_cymraeg