Yn 2024, bydd tymor y gwanwyn yn dod i ben ddydd Gwener 22 Mawrth a bydd tymor yr Haf yn dechrau dydd Llun 15 Ebrill. Rhwng y dyddiadau hynny mae gwyliau'r Pasg.
Dydd Gwener Mawrth 29 a Dydd Llun Ebrill 1 yw gwyliau banc, pan fydd y rhan fwyaf o wasanaethau'r Brifysgol ar gau yn gyfan gwbl.
Oriau Agor Gwyliau'r Pasg
- Yr Ardal Gynghori: Atebir ymholiadau myfyrwyr rhwng yr oriau agor arferol, sef 8.30yb - 4.30yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Oherwydd gwyliau banc y Pasg, bydd yr Ardal Gynghori ar gau Dydd Gwener 29 Mawrth a dydd Llun 1 Ebrill, bydd y Ardal Cynghori yn ailagor ddydd Mawrth 2 Ebrill. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd cwestiynau a anfonir i’r Ardal Gynghori drwy ddefnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein yn cael eu hateb.
- Llyfrgell: Oherwydd gwyliau banc y Pasg, bydd pob llyfrgell ar gau ar Dydd Gwener 29 Mawrth a dydd Llun 1 Ebrill, bydd pob llyfrgell yn ailagor ddydd Mawrth 2 Ebrill.Gweler Oriau Agor Gwyliau’r Pasg am ragor o fanylion.
- Gwasanaeth Arlwyo: Amseroedd agor yr uned arlwyo
- Cyngor Mewnfudo a Myfyrwyr Rhyngwladol: Ymatebir i ymholiadau yn ystod oriau agor arferol.
- Argraffu a Dylunio PDC: Oriau agor arferol o ddydd Llun i ddydd Iau (8.30yb-4.30yp) a dydd Gwener (8.30yb-4yp) ac eithrio ar gau ddydd Gwener 29 Mawrth ac ddydd Llun 1 Ebrill, yn ailagor ddydd Mawrth 2 Ebrill. Gellir gwneud archebion trwy Siop Argraffu Ar-lein PDC ar gyfer casglu neu ddosbarthu.
- Undeb y Myfyrwyr: Mae'r Undeb y Myfyrwyr ar gau o ddydd Iau 28 Mawrth i ddydd Mercher 3 Ebrill. Bydd siop Glyntaf ar gau yn ystod y gwyliau, bydd siop Trefforest ar agor rhwng 8:30yb a 2yp yn ystod oriau'r Pasg. Bydd yr holl safleoedd masnachol eraill ar gau rhwng dydd Llun 25 Mawrth a dydd Llun 15 Ebrill.
- Y Gaplaniaeth: Bydd y Tŷ Cwrdd ar gau ar ddydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg ynghyd â gweddill y brifysgol. Dros gyfnod y gwyliau mae'r Gaplaniaeth ar agor fel arfer, 11yb tan 3yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cymorth TG
Oriau agor Gwasanaethau TG dros y Pasg 2024 yw:
- 8.30yb-17.30yp o ddydd Llun i ddydd Gwener (27 Mawrth 2024 – 14 Ebrill 2024)
Bydd pob campws ac adeilad ar gau dros benwythnos y Pasg (dydd Gwener 29 - dydd Llun 1 Ebrill). Bydd y brifysgol yn ailagor fel arfer o ddydd Mawrth 2 Ebrill.