Grwpiau Ffocws Adborth Myfyrwyr | Pizza am ddim a taleb Amazon!

Cardiff student life

Mae adran Myfyrwyr y Dyfodol yn gwahodd myfyrwyr i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws am eu profiadau ym Mhrifysgol De Cymru.

Bydd y grwpiau ffocws hyn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae ein myfyrwyr yn chwilio amdano yn ystod ac ar ôl eu cyfnod astudio. Mae’n ffordd i Brifysgol De Cymru ddarganfod pwy yw ein myfyrwyr mewn gwirionedd.

Rydym am i fyfyrwyr rannu eu hagweddau, eu gwybodaeth a'u mewnwelediad am fywyd yn PDC. Gallwch son am eich cwrs, llety, neu fywyd campws arferol. Rydym yn annog i chi fod mor agored â phosibl yn eich adborth. Byddwn yn defnyddio eich adborth i wella ein dealltwriaeth o’ch profiad fel myfyriwr PDC.

Byddant i gyd yn digwydd ystod yr wythnos sy'n dechrau 19 Chwefror 2024 ac ymlaen.

Sut alla’i cymered rhan?

Os hoffech gymryd rhan mewn grŵp ffocws, chwblhau’r ffurflen ddigidol yma erbyn Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024. Mi fyddwn yn danfon e-bost iddo’ch i gadarnhau yn union y dyddiad ac amser yn agosach i’r dyddiad.

Bydd y grwpiau'n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. I ddiolch i'n cyfranwyr, bydd taleb Amazon gwerth £25 a chinio Domino's ar gael.

#unilife_cymraeg