Dewch yn Llywiwr Myfyrwyr

Student Navigators 2x1 CYM

Rydym yn chwilio am Llywiw Fyfyrwyr brwdfrydig a dibynadwy i weithio ar draws PDC Campws.

Mae rôl y Llywiwr Myfyrwyr yn amrywiol, ac yn amrywio o gyfarfod a chyfarch myfyrwyr, eu cyfeirio o amgylch y campws a dosbarthu taflenni, i ddarparu cymorth mewn gwahanol ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd y brifysgol.

Nid oes isafswm ymrwymiad amser. Bydd disgwyl i chi reoli eich amser yn effeithiol a gweithio'r sifftiau sydd ar gael o amgylch eich darlithoedd a'ch ymrwymiadau addysgol.

Os yw hyn yn ennyn eich diddordeb, darllenwch fanyleb y person a'r disgrifiad swydd am ragor o wybodaeth.

Sut i wneud cais

  • Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer y rôl trwy lenwi'r ffurflen ar-lein.
  • Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i gwrdd ag arweinwyr y Llyw-wyr Myfyrwyr am sesiwn holi ac ateb.
  • Mynychwch y sesiwn ar yr amser, y dyddiad a’r lleoliad a ddarparwyd a dywedwch wrthym amdanoch chi'ch hun, eich sgiliau a'ch profiad.
  • Ar ôl y sesiwn byddwch yn cael gwybod os ydych wedi bod yn llwyddiannus.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm Dydd Iau 16 Mai 2024.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn, cysylltwch â [email protected].

#unilife_cymraeg