Brecwast am ddim i fyfyrwyr PDC

Free Food 1920x1080 W

Bydd PDC yn cynnig eitemau brecwast am ddim yn ein mannau arlwyo ar bob campws. Mae'r cynnig yn dechrau ddydd Llun 15 Ebrill, ac mae ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener hyd nes y clywir yn wahanol.

Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu ychydig gyda'r sefyllfa bresennol o ran costau byw.

NB - Mae angen i chi ddangos eich cerdyn adnabod myfyriwr.

Stilts a Zone

  • Rhôl brecwast poeth gyda 2 eitem am ddim, yn cael ei gweini rhwng 8am-9.30am

Caffis Casnewydd a Chaerdydd

  • Gweinir Potiau Uwd Quaker am ddim rhwng 8am-9.30am

Parc Chwaraeon

  • Gweinir Potiau Uwd Quaker am ddim rhwng 8.30am-9.30am

#unilife_cymraeg