15-09-2023
Efallai mai dyma'r tro cyntaf i chi fyw oddi cartref a gofalu am eich hun. Mae'n debygol y byddwch chi'n gwneud grŵp newydd o ffrindiau, a fydd, o bosib, yn dod yn ffrindiau oes. Efallai y byddwch chi'n magu diddordebau neu arferion newydd ac yn cymryd y camau cyntaf yn eich gyrfa.
Tua'r adeg hon hefyd y byddwch chi'n dechrau cael eich trin fel oedolyn o fewn y gymdeithas. Bydd gennych chi fwy o ddewis nag erioed o'r blaen am yr hyn rydych chi'n ei wneud a’ch hunaniaeth. Byddwch yn ymwybodol mai chi, fel oedolyn, sy'n gyfrifol am eich hun a'ch gweithredoedd. Dyma rai o'r pethau y dylech eu hystyried er mwyn cael y gorau o'ch cyfnod yn y brifysgol mewn ffordd ddiogel.
Nid oes rhaid i alcohol fod yn ganolog i fywyd myfyrwyr. Gallwch barhau i gael bywyd cymdeithasol cyffrous a hynny heb ben mawr y bore trannoeth. Os byddwch yn penderfynu yfed, gwnewch hynny’n gyfrifol.
Mae bwyta digon cyn yfed yn paratoi’ch stumog ac fe all gael gwared ar effeithiau pen mawr y bore canlynol. Peidiwch â gadael i gemau yfed, pwysau cyfoedion neu arferion ar gyfryngau cymdeithasol eich annog i roi eich hun mewn perygl. Gofalwch ar ôl eich gilydd a gwnewch yn siŵr bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Defnyddiwch apiau diogelwch personol - bydd ychwanegu ychydig o gymwysiadau diogelwch symudol i'ch ffôn neu'ch dyfais yn rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch i chi.
Dylech osgoi diodydd nad ydych wedi'u gweld yn cael eu harllwys a chadwch lygaid ar eich diod ar bob amser. Os byddwch chi neu ffrind yn dechrau teimlo'n anarferol o feddw neu'n sâl, dewch o hyd i ffrindiau rydych chi'n ymddiried ynddynt, ewch i le diogel a cheisiwch gymorth meddygol ar unwaith.
Dilynwch ein cyngor ar Bartïa’n ddiogel a chynlluniwch eich taith adref bob amser. Parchwch eich cymdogion ar y ffordd adref. Rydych chi'n rhan o'r gymuned leol tra byddwch chi yma, ac mae eich gweithredoedd yn adlewyrchu arnoch chi'ch hun a'r Brifysgol. Byddwch yn ymwybodol o effaith alcohol a chyffuriau ar allu person i gydsynio'n rhywiol, a pheidiwch â thorri ymddiriedaeth person pan fyddant mewn sefyllfa fregus.
Mae iechyd rhywiol yn fwy nag amddiffyn eich hun neu’ch partner rhag beichiogrwydd a chlefydau a drosglwyddir yn rhywiol – mae’n ymwneud hefyd â bod yn wybodus, yn hyderus ac mewn rheolaeth, cael eich parchu a bod yn barchus. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth, cymorth a chyngor ar wasanaethau lleol ar y dudalen we Lles Rhywiol.
Mae pawb yn cyrraedd y brifysgol gyda gwahanol brofiadau a syniadau am ryw. Os nad ydych wedi trafod neu feddwl am gydsynio rhywiol o'r blaen, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae cydsynio rhywiol yn golygu bod person yn cytuno o’i gwirfodd i gael rhyw neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol - a'i fod yn rhydd i, ac yn medru gwneud ei benderfyniad ei hun. Mae unrhyw gyswllt rhywiol heb ganiatâd yn anghyfreithlon a gall arwain at ganlyniadau difrifol. Dylech ymgyfarwyddo gyda’r cysyniad o gydsynio rhywiol a sut y gellir ei roi a/neu ei dynnu'n ôl.
Os ydych yn profi, neu'n dyst i ddigwyddiad sy'n peri pryder, mae Adrodd + Chymorth yn blatfform ar-lein lle gellir adrodd am ymddygiad amhriodol gan wybod y bydd yn cael ei gymryd o ddifrif. Nid oes rhaid i chi roi eich enw a byddwch yn cael mynediad at ystod eang o erthyglau cymorth.
Bydd sgamwyr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i geisio cael gwybodaeth gennych. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod sut i adnabod unrhyw arwyddion o sgam, a'r dulliau mwyaf effeithiol i amddiffyn eich hun.
Mae gan Action Fraud lawer o adnoddau ar gael i chi ymgyfarwyddo â pha sgamiau i gadw llygad allan amdanynt ac sut gallwch adrodd os bydd sgamwyr yn cysylltu â chi. I gael cyngor am suit i gadw'ch eich hun yn ddiogel fel myfyriwr ar-lein, ewch i Aros yn Ddiogel Ar-lein - Sgamiau.
Pe byddwch yn mynd yn sâl, bydd cofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol yn eich galluogi i gael cyngor a chymorth iechyd pe bai angen.
Mae ein Gwasanaethau Cymorth yn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, mae’r Ardal Gynghori yn bwynt cyswllt cyntaf croesawgar.
27-09-2023
21-09-2023
18-09-2023
15-09-2023
12-09-2023
06-09-2023
01-09-2023
30-08-2023
30-08-2023