Meddygon teulu eraill yng Nghaerdydd

medical-header-whitchurch

Mae Gwasanaeth Iechyd PDC wedi dechrau gweithio mewn partneriaeth â Meddygfa Whitchurch Road, i ddarparu mynediad haws at ofal iechyd i’n myfyrwyr sy’n byw yng Nghaerdydd. Un o nodau'r bartneriaeth yw cynyddu'r ddarpariaeth ar y campws yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd yn yr Atrium.

Dylai pob myfyriwr sy’n newydd i Brifysgol De Cymru gofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC, a dylai unrhyw un sydd wedi symud i fynychu’r Brifysgol hefyd gofrestru gyda meddyg teulu lleol – yng Nghaerdydd rydym bellach yn argymell Meddygfa Whitchurch Road. Darganfyddwch sut ar ein tudalen Cofrestru.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda'r practis, bydd Gwasanaeth Iechyd PDC yn gallu eich cyfeirio at wasanaethau'r GIG os oes angen, neu gallwch wneud apwyntiad yn uniongyrchol yn y feddygfa gyda Meddyg Teulu neu Nyrs Practis.

#unilife_cymraeg