Allwch chi helpu'r heddlu i gadw pobl yn ddiogel?

Students

Mae Dr Martin Wright, Cymrawd Gwadd, mewn cydweithrediad â Micheal Saleh, Gwasanaethau Dysgu, wedi lansio ‘Gwirfoddoli Rhithwir’, amgylchedd ar-lein lle gall defnyddwyr ymgysylltu â chwilio am ateb i broblemau plismona.

Gan weithio’n agos gydag Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol De Cymru, a elwir yn Tarian, a Chydlynydd Dinasyddion mewn Plismona Cymru Gyfan, mae’r rhaglen wedi’i dylunio fel bod staff a myfyrwyr yn gallu cael mynediad at gyflwyniadau fideo a modiwlau i’w cwblhau.

Mae’r rhaglen ‘gyntaf o’i bath’ yn mynd i’r afael â phroblemau gwirioneddol a wynebir gan yr heddlu.

Un o’r materion y mae Tarian yn ceisio atebion arloesol iddo yw ‘Mulod Arian’, lle mae myfyrwyr o Tsieina yn arbennig o agored i gael eu gorfodi i ganiatáu i grwpiau troseddau trefniadol gael mynediad at eu cyfrifon banc yn y DU. Mae’r ‘Mulod Arian’, ac weithiau aelodau o’r teulu, wedi wynebu bygythiadau a digwyddiadau o drais. Mae’r heddlu eisiau rhybuddio myfyrwyr rhyngwladol am hyn ond mae dulliau traddodiadol, fel darparu taflenni cynghori neu ddarlithoedd, wedi bod yn aneffeithiol. Gall y gwirfoddolwyr gyflwyno atebion mewn amrywiol ffyrdd, megis fideos TikTok, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, neu gynigion ysgrifenedig. Gwahoddir gwirfoddolwyr i fod mor greadigol ag y dymunant fod.

Dywedodd Dr Martin Wright, Swyddog Heddlu wedi ymddeol a Chymrawd Gwadd PDC: “Rydyn ni’n byw mewn hinsawdd lle mae yna ddrwgdybiaeth o’r heddlu, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, felly roedden ni eisiau ceisio cyflawni dau beth; creu amgylchedd lle gallai pobl wirfoddoli i'r heddlu yn hawdd, ond hefyd ymgysylltu'n gadarnhaol â grwpiau o unigolion na fyddent fel arfer yn ymgysylltu.

“Ar ôl cwblhau, mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn llythyr o werthfawrogiad gan Tarian, ac maent yn cael profiad gwaith y gallant fyfyrio arno mewn ceisiadau am swyddi yn y dyfodol."

Dywedodd Michael Saleh, Gwasanaethau Dysgu PDC: “Mae prosiectau profiad rhithwir fel hyn yn ffordd wych o ddatblygu hyder myfyrwyr tra’n ennill profiad lefel graddedigion.”

Mae Gwirfoddolwyr Rhithwir ar gael trwy CareersConnect.

#unilife_cymraeg