16-09-2022
Bydd oedi byr cyn cyhoeddi amserlenni ambell i gwrs. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Diweddariad 26/09/2022: Gweler: Diweddariad Amserlen Addysgu
Mae gennym feddalwedd amserlennu newydd sy'n rhoi amserlen addysgu bersonol i bob myfyriwr. Unwaith y byddwch wedi sefydlu'ch cyfrif TG a chwblhau’ch ymrestru ar-lein, bydd eich amserlen addysgu'n cael ei llenwi'n awtomatig i’ch calendr Outlook PDC. Bydd eich amserlen bersonol yn dangos cod y modiwl, teitl, diwrnod ac amser eich dosbarthiadau:
Bydd diweddariadau'n cysoni'n awtomatig ond rydym yn argymell eich bod yn gwirio'ch amserlen bersonol o leiaf unwaith yr wythnos fel bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf ar bob amser.
I gael mynediad at eich amserlen addysgu bersonol, mae'n rhaid eich bod wedi creu eich cyfrif TG PDC ac wedi cwblhau ymrestru ar-lein.
Gallwch gael mynediad at eich calendr Outlook PDC trwy dudalen hafan UniLife gan ddewis ‘Eich Amserlen’, neu drwy fynd i https://outlook.office.com/calendar/.
Gallwch weld eich amserlen fesul diwrnod, wythnos neu fis. Bydd eich amserlen yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynghylch ble a phryd y bydd eich sesiynnau addysgu yn cael eu cynnal.
Pe hoffech gymorth wrth ddod o hyd i leoliad eich dosbarth, mae FindARoom yn nodi campws, adeilad a lleoliad bob ystafell.
Mae eich amserlen yn gysylltiedig â'ch cofnod myfyriwr, felly dylai'r modiwlau a welwch fod yn gywir yn awtomatig.
Pe hoffech wneud cais i newid eich modiwlau dewisol, rhaid i chi gysylltu â'ch Arweinydd Cwrs/Modiwl. Os byddwch yn newid unrhyw fodiwlau yr ydych yn eu hastudio, bydd hyn yn newid pan fydd eich cofnod myfyriwr yn cael ei ddiweddaru, ac yna’n cael ei adlewyrchu yn eich amserlen.
Os oes unrhyw wybodaeth ar goll neu'n anghywir ar eich amserlen, cysylltwch â [email protected] cyn gynted â phosibl.
20-12-2022
20-12-2022
14-12-2022
14-12-2022
13-12-2022
12-12-2022
12-12-2022
08-12-2022
07-12-2022